Mae’r penderfyniad i gau’r Senedd yn San Steffan am gyfnod o fwy na mis cyn Brexit yn “gam oeraidd mewn cyfeiriad gwrth-ddemocrataidd”, yn ôl Aelod Seneddol Ceredigion, Ben Lake.

Bydd holl gyfarfodydd y Senedd yn cael eu gohirio rhwng yr ail wythnos ym mis Medi tan Hydref 14, gyda disgwyl i Araith y Frenhines gael ei thraddodi y diwrnod hwnnw.

Yn ôl y Prif Weinidog, Boris Johnson, dyw Brexit ddim yn rheswm tros ei benderfyniad, ac mae’n mynnu bod angen Araith y Frenhines er mwyn cyflwyno “agenda gyffrous iawn” o bolisi domestig.

Ond mae ei feirniaid, ar y llaw arall, wedi wfftio hynny, gyda Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, John Bercow, yn disgrifio’r cam fel un “gwarthus”.

“Hynod bryderus”

Mewn cyfarfod trawsbleidiol yn Llundain ddydd Mawrth (Awst 27), fe gytunodd arweinwyr y gwrthbleidiau i geisio cyflwyno deddf er mwyn atal Brexit heb gytundeb.

Ond mae’r penderfyniad i gau’r Senedd am bedair i bum wythnos yn golygu y byddai’n fwy anodd i Aelodau Seneddol allu gwneud hynny cyn Hydref 31 – y dyddiad y mae disgwyl i wledydd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

“Mae’r penderfyniad yma gan y Prif Weinidog yn un hynod bryderus ac yn gam oeraidd mewn cyfeiriad gwrth-ddemocrataidd,” meddai Ben Lake wrth golwg360.

“Ar adeg mor dyngedfennol i’r wlad, mae’n anodd credu bod Llywodraeth am gau’r drws ar ddemocratiaeth am gyfnod o 5 wythnos.

“Mi fydd rhaid i Aelodau Seneddol wneud y mwyaf o’r amser sydd ar gael wythnos nesaf, a mawr hyderaf y bydd y Senedd yn rhoi eu gwahaniaethau pleidiol i’r neilltu o’r diwedd er mwyn osgoi gadael yr Undeb Ewropeaidd.”