Mae’r Frenhines wedi cymeradwyo cais gan y Prif Weinidog, Boris Johnson, i ohirio’r Senedd am gyfnod o fwy na mis.

Bydd holl gyfarfodydd y Senedd yn cael eu gohirio rhwng yr ail wythnos ym mis Medi tan Hydref 14, gyda disgwyl i Araith y Frenhines gael ei thraddodi y diwrnod hwnnw.

Mae cam o’r fath yn ei gwneud hi’n fwy anodd i Aelodau Seneddol geisio atal Brexit heb gytundeb.

Mae arweinwyr y gwrthbleidiau eisoes wedi sgrifennu at y Frenhines yn lleisio eu gwrthwynebiad i’w phenderfyniad, ac mae Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, John Bercow, yn dweud bod gohirio’r Senedd ychydig wythnosau cyn Brexit yn “warthus”.

Mae deiseb sy’n galw am atal y gohirio wedi derbyn dros 350,000 o lofnodion hyd yn hyn.

Mae Boris Johnson, ar y llaw arall, yn mynnu nad Brexit oedd y rheswm tros ei gais, gan fynnu bod angen Araith y Frenhines er mwyn cyflwyno “agenda cyffrous iawn” o bolisi domestig.