Mae chwech o bobol wedi cael eu harestio ar ôl i lwyth o gocên – gwerth tua £60m – gael ei ganfod ar gwch hwylio ger Abergwaun.

Mae swyddogion o’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA) wedi bod yn archwilio’r cwch yn y porthladd yn Sir Benfro.

Mae lle i gredu mai dyma un o’r llwythi mwyaf o gyffuriau anghyfreithiol y mae’r awdurdodau wedi eu meddiannu yng ngwledydd Prydain yn y blynyddoedd diweddar.

Dywed yr NCA fod y cyrch, a gafodd ei gynnal fore Mawrth (Awst 27), yn ganlyniad i ymchwiliad “hirdymor” a fu’n canolbwyntio ar y modd y mae cyffuriau Dosbarth A yn cael eu cludo i mewn i wledydd Prydain o Dde America.

Erbyn canol y dydd heddiw, mae swyddogion sy’n archwilio’r cwch hwylio, a gafodd ei ddal tua milltir o’r arfordir, wedi dod o hyd i becynnau o gocên sy’n pwyso mwy na 250kg.

Maen nhw hefyd yn credu bod tua 500kg yn ychwanegol yn dal i fod arno.

Cafodd dau ddyn, 41 a 53, o wledydd Prydain eu harestio ar fwrdd y llong, tra bo pedwar person arall – tri dyn, 23, 31 a 47, ynghyd â dynes, 30 – wedi cael eu harestio yn ardaloedd Lerpwl a Loughborough.

Mae’r pedwar olaf wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth tan ddiwedd mis Medi.

Dywed Craig Naylor, dirprwy gyfarwyddwr ymchwiliadau’r NCA, fod y cyrch yn rhan o ymdrech yr asiantaeth i fynd i’r afael â’r modd y mae cyffuriau anghyfreithlon yn cael eu cludo i mewn i’r wlad.