Mae Heddlu’r De yn ymchwilio i lofruddiaeth dyn yn y Barri.
Cawson nhw eu galw i ardal y dociau am 5.50 fore heddiw (dydd Mercher, Awst 28) ar ôl i gorff gael ei ddarganfod.
Dydy’r corff ddim wedi cael ei adnabod hyd yn hyn, ac mae’r heddlu’n dal ar y safle’n cynnal ymchwiliad.
Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth, ac yn diolch i’r gymuned am eu cymorth.