Mae bron hanner cant o ffoaduriaid, gan gynnwys dwsinau o blant, wedi gorfod cael eu hachub wrth groesi’r Sianel yn ystod y deuddydd diwethaf.
Yn yr achos cyntaf ddoe (dydd Mawrth, Awst 27), bu’n rhaid i’r awdurdodau yn Ffrainc achub 22 ohonyn nhw, sef pum dyn, chwe dynes ac 11 plentyn.
Cyn i’r wawr dorri y bore yma wedyn, cafodd 25 ffoadur, gan gynnwys tri phlentyn, eu canfod yn sownd mewn dŵr bâs nid nepell o borthladd Calais.
Fe lwyddodd hofrennydd i gludo 12 o’r ffoaduriaid yn ôl i’r lan, tra bo’r 13 arall wedi gorfod aros i’r llanw gilio.