Mae plant ysgol yng Nghasnewydd wedi llunio cerdd ar drothwy ymgyrch ragbrofol Ewro 2021 tîm pêl-droed merched Cymru.
Fe fu’r plant o Flwyddyn 6 Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon yn cymryd rhan mewn cynllun sydd wedi cael ei drefnu ar y cyd gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru a Llenyddiaeth Cymru fel rhan o gynllun Bardd Plant Cymru.
Bwriad y cynllun yw cyflwyno plant i farddoniaeth drwy weithdai, perfformiadau a gweithgareddau, ac fe gawson nhw’r cyfle i gyfarfod â’r garfan yn ystod sesiwn ymarfer agored a chynhadledd i’r wasg yn Rodney Parade.
Fe gawson nhw sesiwn ymarfer iddyn nhw eu hunain wedyn gan hyfforddwyr Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Sesiwn gyda Casia Wiliam
Ar ddiwedd y sesiwn bêl-droed, cafodd y plant eu harwain mewn gweithdy barddoniaeth gan Casia Wiliam, Bardd Plant Cymru.
Fe luniodd y plant y gerdd ‘Cymru ar Ben y Byd’, sy’n trafod y profiad cyffrous o wylio gêm bêl-droed Cymru, ac fe wnaethon nhw ffilmio’r gerdd ar gyfer fideo arbennig, sydd hefyd yn cynnwys aelodau o Glwb Pêl-droed Crannog.
Bydd ymgyrch y merched yn dechrau nos yfory (nos Iau, Awst 29) wrth iddyn nhw herio Ynysoedd Faroe oddi cartref, cyn wynebu Gogledd Iwerddon yng Nghasnewydd ar Fedi 3.