Mae dynes o Aberystwyth wedi marw o’i hanafiadau ar ôl cael ei tharo gan gar ar faes pebyll yn ardal Caernarfon.
Bu farw Anna Roselyn Evans, 48, yn yr ysbyty yn Stoke yn dilyn y digwyddiad yng ngwersyll Rhyd y Galen ger Bethel ychydig dros wythnos yn ôl ar Awst 19.
Cafodd tri pherson arall – dau ddyn ac un ddynes – eu hanafu hefyd, ac maen nhw bellach wedi cael eu rhyddhau o’r ysbyty.
Mae dyn, 26, o Fanceinion wedi pledio’n euog i droseddau gyrru mewn cysylltiad â’r digwyddiad.
Mae Jake Waterhouse wedi cael ei gadw yn y ddalfa yn dilyn ei ymddangosiad gerbron Llys Ynadon Llandudno yr wythnos ddiwethaf.
Mae’r ail ddyn a gafodd ei arestio bellach wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad.