Mae disgwyl i Boris Johnson geisio dirwyn y Senedd i ben cyn Araith y Frenhines ar Hydref 14.

Fe allai cam o’r fath ei gwneud hi’n fwy anodd i aelodau seneddol geisio atal Brexit heb gytundeb.

Bydd cais y prif weinidog yn cael ei ystyried mewn cyfarfod o’r Cyfrin Gyngor yn Balmorol, yn ôl adroddiadau.

Mae disgwyl i aelodau seneddol ddychwelyd i Dŷ’r Cyffredin ar Fedi 3, gydag arweinwyr gwleidyddol yn bwriadu gwrthwynebu Brexit heb gytundeb trwy gyflwyno deddfwriaeth newydd.

Ond fe allai Boris Johnson geisio dirwyn y Senedd i ben ar Fedi 11 hyd nes y bydd y Frenhines yn traddodi ei haraith.

Mae Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, yn dweud fod heddiw’n “ddiwrnod tywyll iawn i ddemocratiaeth y Deyrnas Unedig”.

Mae’r Ceidwadwyr yn wfftio’r awgrym fod y Senedd yn cael ei dirwyn i ben, gan ddisgrifio’r cam fel “Araith y Frenhines yn cael ei thraddodi gan y Llywodraeth, fel pob llywodraeth newydd”.