Mae’r heddlu wedi dod o hyd i gorff wrth chwilio am ddyn yn ei 40au o’r Drenewydd.
Does neb wedi gweld James Jefferies o ardal Garthowen ers rhai diwrnodau. Cafodd yr heddlu wybod ar Awst 24 ei fod ar goll.
Mewn datganiad, maen nhw’n dweud iddyn nhw ddod o hyd i gorff ar goetir. Dydi’r corff ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol, ond mae ei deulu wedi cael gwybod.
Does gan yr heddlu ddim eglurhad ynghylch y farwolaeth ar hyn o bryd.