Mae gwledydd wedi cytuno i gyfyngu ar werthiant yr eliffantod gwyllt sy’n cael eu dal yn Zimbabwe a Botswana.
Mae arbenigwyr yn dweud fod y bleidlais mewn cynhadledd yn Genefa yn y Swistir ar fasnach anifeiliaid gwyllt yn gam mawr ymlaen i eliffantod – a hynny oherwydd fod y cytundeb yn cyfyngu ar y nifer all gael eu gwerthu i barciau a pherchnogion sw yn Ewrop, yn arbennig.
Mae’r cytundeb yn gyfaddawd sy’n cyfyngu ar allforio eliffantod byw o Affrica, a dim ond rhai eithriadau sydd, a’r rheiny’n benodol yn cyfeirio at Ewrop.
Mae cadwriaethwyr yn fodlon y gall eliffant sydd eisoes wedi cyrraedd Ffrainc, dyweder, gael ei symud i’r Almaen heb orfod cael ei anfon yn ôl i Affrica yn gyntaf.
Ond mae’n golygu na fydd hi bellach yn bosib mewnforio eliffantod o Affrica i’r Unol Dalethiau, Tsieina a nifer o wledydd eraill sydd y tu hwnt i gynefin naturiol yr anifail.
Fe basiwyd y cynnig gyda 87 o blaid, 29 yn erbyn, a 25 yn atal eu pleidlais. Fe bleidleisiodd yr Unol Daleithiau yn erbyn y cytundeb.