Mae un o drigolion Trawsfynydd yn dweud bod achub tafarn leol a’i throi’n fenter gymunedol yn “allweddol” i’r pentref ac i’r ardal gyfan.
Fe fydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn neuadd bentref Trawsfynydd ymhen y mis (nos Wener, Medi 27) i drafod y posibilrwydd o droi tafarn Cross Foxes yn dafarn gymunedol.
Yn ôl tudalen Facebook yr ymgyrch, diben y cyfarfod cyhoeddus yw “trafod syniadau a chreu pwyllgor”.
Fe ddaw yn fuan ar ôl i dafarn Y Plu yn Llanystumdwy gael ei hagor unwaith eto fel menter gymunedol. Aeth honno ar werth yn 2015.
Ar dudalen Facebook y dafarn, mae’r Cross Foxes yn cael ei disgrifio fel “bar, gwesty a bwyty teulu sydd wedi’i lleoli yn un o lefydd mwyaf pictiwrésg Cymru”.
Gwaith a chymdeithasu
“Mae’n allweddol cael rhywle yn y gymuned all pobol gyfarfod fin nos,” meddai Elfed Wyn Jones wrth golwg360, “ac hefyd i ddod â gwaith i’r ardal.
“Mae Traws yn ardal unigryw ac eitha’ pell o bob man, felly mi fydd cael tafarn gymunedol yn yr ardal yn tynnu pawb yn agosach, yn rhoi cyfle i bobol gymdeithasu ac hefyd yn creu cyfloedd gwaith.”