Mae blodyn prin wedi cael ei achub rhag mynd yn angof, diolch i ymdrechion Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig ger Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae blodyn Tegeirian y Fign Galchog (Fen Orchid) ymhlith y blodau sy’n wynebu’r bygythiad mwyaf yn Ewrop.
Dim ond mewn dau le yng ngwledydd Prydain mae modd ei weld yn tyfu, sef Cynffig a’r Norfolk Broads, ond dim ond 1,400 ohonyn nhw sydd i’w gweld yn y ddau le gyda’i gilydd.
Roedd y blodau i’w gweld mewn wyth lle yn ne Cymru ar un adeg, ond oherwydd tyfiant a diffyg gwaith cadw trefn arnyn nhw, cafodd y blodau eu gorchfygu.
Fe fu bron iddyn nhw ddiflannu’n llwyr o’r de, ac fe gwympodd y niferoedd yn ardal Cynffig o 21,000 ar ddiwedd y 1980au i 400 yn 2011.
Ond ym mis Gorffennaf, cafodd dros 4,000 ohonyn nhw eu cyfri – y nifer fwyaf ers ugain mlynedd.
“Nid yn unig mae’r canlyniad hwn yn newyddion da i Gynffig, ond hefyd i ardaloedd twyni eraill fel Whiteford a Phen-bre, lle gallwn ni gyflwyno rheolaeth debyg yn y gobaith o ddod â Thegeirian y Fign Galchog yn ei hôl,” meddai Colin Cheesman o Plantlife, oedd yn gyfrifol am arwain y gwaith yng Nghymru.