Mae perchennog tafarn yn Sir Gaerfyrddin yn “browd iawn” o fod wedi cyrraedd rhestr fer gwobr ‘Tafarn y Flwyddyn’.
Bellach mae’r Ymgyrch Tros Gwrw Go Iawn (CAMRA) wedi enwi 16 tafarn o’r Deyrnas Unedig sy’n deilwng, a’r unig dafarn o Gymry sydd ar y rhestr yw’r Mansel Arms ym Mhorthyrhyd.
Mae Gemma Bennetts yn rhedeg y dafarn â’i gŵr Glyn Bennetts, ac mae hi’n dweud ei bod wedi “cyffroi” a bod yr holl beth yn “rhyfeddol”.
Tafarndai ag “atmosffer croesawgar” a “chwrw go iawn” sydd ar y rhestr, yn ôl CAMRA, ac mae’r perchennog yn teimlo bod ganddyn nhw gyfuniad perffaith o’r ddau.
“Mae gennym gymuned glos yma yn y dafarn, ac rydych yn cael y teimlad wrth gerdded trwy’r drws bod pawb yn gyfeillgar ac yn barod i sgwrsio,” meddai wrth golwg360.
“Mae llawer yn ein canmol am y cwrw a’r amrywiaeth sydd gennym ni. Rydym wedi bod yma am ychydig dros flwyddyn, ac rydym wedi darparu bron i 140 o fathau gwahanol o gwrw.”
“Tipyn o hanes”
Hen “coaching inn” o’r 18fed ganrif yw’r Mansel Arms, yn ôl Gemma Bennetts, ac mae’n dweud bod “tipyn o hanes i’r adeilad”.
Bydd enillydd y wobr yn cael ei gyhoeddi ym mis Chwefror flwyddyn nesaf.