Mae Swyddfa Prif Gonswl Canada yn Hong Kong wedi atal staff rhag teithio allan o’r rhanbarth yn sgil diflaniad swyddog o wledydd Prydain ar y tir mawr yn Tsieina.
Mae tensiynau wedi cynyddu yn Hong Kong yn sgil y cyhoeddiad gan Lywodraeth Tsieina yr wythnos hon fod Simon Cheng Man-kit, aelod o Swyddfa Prif Gonswl Prydain, wedi cael ei arestio yn ninas Shenzhen.
Mewn datganiad heddiw (dydd Gwener, Awst 23), fe ddywedodd Swyddfa Prif Gonswl Canada:
“Ni fydd staff yn ymgymryd â theithiau busnes swyddogol y tu allan i Hong Kong.”
Dyw’r swyddfa ddim wedi cyfeirio’n uniongyrchol at achos Simon Cheng Man-kit a ddiflannodd bythefnos yn ôl yn ystod trip busnes i’r tir mawr.
Yn ôl Llywodraeth Tsieina, fe fydd yn cael ei gadw dan glo am 15 diwrnod am dorri rheolau yn ymwneud â’r drefn gyhoeddus. Does dim manylion pellach wedi eu cyhoeddi.