Mae adroddiad cychwynnol sy’n ymchwilio i sut y gwnaeth bron i filiwn o gartrefi yng Nghymru a Lloegr golli eu cyflenwad trydan ar ddechrau’r mis, wedi rhoi’r bai yn rhannol ar fellt.
Fe wnaeth tywydd garw ar Awst 9 arwain at bŵer yn cael ei golli ar fferm wynt Hornsea a phwerdy Little Barford yn Lloegr.
Yn ôl yr adroddiad, fe gollwyd y cyflenwad trydan toc cyn 5yp, cyn dychwelyd am tua 5.40yp.
Fe achosodd y digwyddiad broblemau i drafnidiaeth a gwasanaethau cyhoeddus yn ystod y cyfnod hwnnw, gan effeithio ar ysbytai, meysydd awyr a rheilffyrdd.
Rheoleiddwyr yn ymchwilio
Mae’r rheoleiddwyr, Ofgem, bellach yn ymchwilio i’r mater, ac fe allai hynny arwain at gosb ariannol yn cael ei godi ar gwmnïau.
Mae’r corff am ystyried pa un a oedd penderfyniadau’r cwmnïau i ddatgysylltu rhai o’u cwsmeriaid o’r grid yn ddoeth ai peidio.
Ymhlith y cwmnïau sydd dan ymchwiliad mae’r Grid Cenedlaethol, Trosglwyddiad Trydan y Grid Cenedlaethol, 12 o weithredwyr y rhwydwaith yng Nghymru a Lloegr, a’r pwerdai eu hun.