Mae Dŵr Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i gynyddu nifer y cwsmeriaid sy’n defnyddio ei wasanaethau Cymraeg.
Yn ôl y cwmni dielw, mae 6,500 o’i gwsmeriaid wedi cofrestru ar gyfer defnyddio gwasanaethau o’r fath ar hyn o bryd, ond y nod yw cynyddu’r rhif hwnnw i 25,000 erbyn 2025.
Mae Dŵr Cymru yn cynnig “amrywiaeth o wasanaethau dwyieithog”, meddai, sy’n cynnwys canolfan gyswllt ar gyfer y Gymraeg, gwefan ddwyieithog, yn ogystal â sianeli cyfryngau cymdeithasol a chyfleuster sgwrsio ar-lein.
Mae’r cwmni hefyd yn honni mai dyma’r tro cyntaf i darged o’r fath gael ei osod yn y sector preifat yng Nghymru.
“Mwy na gwasanaeth yn unig”
“Fel cwmni di-elw sy’n canolbwyntio ar fodloni disgwyliadau ein cwsmeriaid a rhagori arnyn nhw, rydym ni’n chwilio’n barhaus am ffyrdd o wella’r gwasanaeth a gynigir gennym,” meddai Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Chris Jones.
“Mae’r gwasanaethau Cymraeg a gynigir gennym yn rhan annatod o hyn ac ers i ni fod yn gwmni dielw, rydym ni wedi buddsoddi’n sylweddol mewn cynyddu amrywiaeth y gwasanaethau sydd ar gael yn y Gymraeg.
“Ond mae’n bwysig ein bod ni’n gwneud mwy na chynnig y gwasanaeth yn unig – mae’n rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i sicrhau ein bod yn cael cymaint o siaradwyr Cymraeg ag sy’n bosib i ddefnyddio’r gwasanaeth, gan ein bod ni’n gwybod bod galw amdano.”