Mae’r gwasanaeth tân wedi bod yn ymateb dros nos i ffrwydrad ar safle ffatri powdwr alwminiwm yng Nghaergybi.
Cawson nhw eu galw i’r digwyddiad toc ar ôl 6 o’r gloch neithiwr (nos Sadwrn, Awst 10), yn dilyn adroddiadau o glec fawr ar y safle.
Cafodd pedwar criw tân eu hanfon i’r safle, ac fe lwyddon nhw i ddod o hyd i bawb ar y safle’n ddiogel ac i reoli’r tân.
Chafodd neb ei anafu’n ddifrifol, ond mae dau ddyn wedi mynd ar eu liwt eu hunain i’r ysbyty am driniaeth.
Mae disgwyl i’r gwasanaeth tân barhau i asesu’r sefyllfa am beth amser.