Mae’r chwilio’n parhau ym Malaysia am ferch 15 oed o Lundain sydd ag anghenion arbennig.
Ath Nora Quoirin ar goll yn y jwngl wythnos yn ôl, ac mae cannoedd o bobol yn dal i chwilio amdani.
Mae ei rhieni wedi diolch i’r rhai sy’n chwilio amdani, tra bo’r heddlu’n dweud eu bod nhw’n cael cymorth addolwyr Islamaidd sy’n mynychu mosg yn yr ardal lle diflannodd hi.
Yn ôl yr heddlu, does ganddyn nhw ddim llawer o wybodaeth amdani ar hyn o bryd, ond maen nhw’n ymchwilio i’r holl bosibiliadau.
Maen nhw’n dweud nad oes tystiolaeth ar hyn o bryd i awgrymu ei bod hi wedi cael ei chipio, ond eu bod nhw’n gofidio amdani.
Mae nifer o bobol wedi cael eu holi, ac fe fu’r heddlu’n archwilio cofnodion troseddol nifer o bobol sy’n hysbys iddyn nhw.