Mae dyn, 18, wedi cael ei gyhuddo o ddynladdiad yn dilyn ymosodiad yng nghanol tref Wrecsam dros y penwythnos.
Bu farw Philip James Long, 36, o ardal Marchwiail, ar ôl cael ei ganfod yn anymwybodol ar Stryd y Coleg, ger y grisiau sy’n arwain at Eglwys San Silyn, yn ystod yr oriau mân fore Sul (Awst 4).
Mewn teyrnged, mae ei deulu wedi ei ddisgrifio’n “ŵr bonheddig a thad ffyddlon”.
“Roedd yn ŵr bonheddig drwyddi draw, gan roi eraill yn gyntaf ac yn barod i helpu yn wastad,” meddai’r datganiad.
“Roedd Phil yn byw er mwyn ei deulu, ac mae hon yn golled enfawr i’w deulu cyfan a’i ffrindiau niferus iawn.
“Fe fydd yn cael ei golli’n fawr bob eiliad o bob diwrnod, ac ni fydd yn cael ei anghofio, byth.”
Mae disgwyl i Matthew Curtis, 18, o ardal Gwersyllt, ymddangos gerbron Llys Ynadon Wrecsam y bore yma (dydd Mercher, Awst 7).