Fyddai Llafur ddim yn atal unrhyw ymgais i gynnal ail refferendwm annibyniaeth yn yr Alban, yn ôl canghellor y blaid, John McDonnell.
Fe ddaw ei sylwadau yng Ngŵyl Caeredin, yn dilyn awgrym Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, y gallai’r pleidiau gydweithio er mwyn trechu’r Ceidwadwyr a sicrhau bod Jeremy Corbyn yn dod i rym.
Mater i Senedd yr Alban fyddai cynnal refferendwm o’r newydd, meddai John McDonnell.
“Byddan nhw’n penderfynu a ydyn nhw eisiau refferendwm arall,” meddai.
“Erbyn yn hwyr y flwyddyn nesaf neu ddechrau 2021, meddai Nicola Sturgeon.
“Fydden ni ddim yn atal rhywbeth felly. Byddem yn gadael i bobol yr Alban benderfynu. Dyna yw democratiaeth.
“Mae yna safbwyntiau eraill o fewn y blaid, ond dyna ein safbwynt ni.”
Pôl piniwn
Daw sylwadau John McDonnell ar ôl i bôl piniwn newydd awgrymu bod y mwyafrif o Albanwyr bellach o blaid annibyniaeth.
Ond mae safbwynt John McDonnell yn gwbl groes i safbwynt Richard Leonard, arweinydd Llafur yr Alban.
Ym mis Mawrth, dywedodd Richard Leonard wrth y BBC y byddai Llafur yn San Steffan yn gwrthod yr hawl i’r Alban gynnal refferendwm annibyniaeth o’r newydd.
Ac er bod Nicola Sturgeon am drechu’r Ceidwadwyr, mae’n dweud na fyddai hi a’i phlaid yn awyddus i glymbleidio’n ffurfiol â Llafur.
Mae Ruth Davidson wedi beirniadu safbwyntiau’r ddwy blaid.