Cafodd dyn 43 oed anafiadau difrifol yn dilyn ymosodiad ym Mhrestatyn yn oriau mân y bore ma (dydd Mawrth, Awst 6).
Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am dystion i’r ymosodiad difrifol ar Ffordd Caradog ym Mhrestatyn am 4.58yb bore dydd Mawrth.
Cafodd y dyn ei gludo i’r ysbyty ond mae’n debyg nad yw ei anafiadau yn rhai sy’n bygwth bywyd.
Nid oes unrhyw un wedi cael eu harestio hyd yn hyn ac mae ymholiadau o ddrws i ddrws yn cael eu cynnal ar hyn o bryd.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Will Jones: “Rydym yn apelio ar unrhyw un a oedd efallai wedi gweld neu glywed unrhyw beth yn ardal Ffordd Caradog yn oriau mân y bore yma i gysylltu â ni.”
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 gan ddyfynnu cyfeirnod X112495 neu ffonio Taclo’r Taclau ar 0800 555111.