Bydd £110m o arian ychwanegol ar gael ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, yn ôl Llywodraeth Prydain.
Daw yn sgil addewid gan y Prif Weinidog newydd, Boris Johnson, y bydd £1.8bn yn cael ei fuddsoddi yn y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr, addewid sydd wedi cael ei feirniadu gan arbenigwyr fel un sy’n “annigonol”.
Ac yn ôl Llywodraeth Cymru, dydyn nhw ddim “wedi derbyn manylion am y cyllid eto”, cyn ychwanegu y bydd unrhyw benderfyniadau ynglŷn â’r arian yn cael eu gwneud ganddyn nhw.
Mae llefarydd ar ran y llywodraeth wedyn yn mynd yn ei flaen i feirniadu Llywodraeth Prydain am ei “hagenda o lymder”, a’i “thoriad ar ôl toriad” i gyllid Cymru.
“Mae’r anrhefn bresennol yng nghalon Llywodraeth Prydain yn golygu nad ydyn ni’n dal yn gwybod beth fydd ein cyllid refeniw ar ôl Ebrill 2020,” meddai’r llefarydd.
“Mae’r lefel hwn o ansicrwydd yn hollol annerbyniol a heb ei debyg. Rydyn ni’n parhau i alw ar Lywodraeth Prydain i ddod a’i pholisi o lymder i ben ac i gynnig eglurder ar unwaith ynglŷn â threfniadau cyllidol y dyfodol.”