Mae dyn wedi cael ei ail-arestio mewn cysylltiad â marwolaeth merch, 21, yn ardal Cathays yng Nghaerdydd dri mis yn ôl.

Cafodd yr heddlu eu galw i fflat Lauren Griffiths ar Stryd Glynrhondda am tua 6.30yh ar Ebrill 30.

Cafodd dyn, 22, yr oedd y ferch yn ei nabod, ei arestio ar y noson mewn cysylltiad â’i marwolaeth, cyn cael ei ryddhau yn ddiweddarach ar fechnïaeth.

Erbyn hyn, mae’r heddlu wedi arestio’r dyn eto yn ei gartref yn Wrecsam ar amheuaeth o lofruddio Lauren Griffiths, a hynny ar ôl iddyn nhw dderbyn gwybodaeth newydd.

Mae teulu’r ferch, sy’n byw yn ardal Croesoswallt, wedi cael eu hysbysu am y datblygiadau ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol, yn ôl Heddlu De Cymru.

Mewn datganiad, dywed y teulu: “Mae’r tri mis diwethaf wedi bod yn annioddefol.

“Rydym ni i gyd yn colli Lauren yn fawr. Roedd hi wir yn belydr o heulwen inni. Mae ein bywydau wedi cael eu rhwygo.”