Mae Boris Johnson wedi galw ar gefnogwyr Brexit i roi eu pleidlais i’r Ceidwadwyr, yn hytrach na’r Blaid Brexit, yn yr isetholiad yn etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed yr wythnos hon.

Os colli’r sedd a wnaiff y Ceidwadwyr ddydd Iau (Awst 1), mae Boris Johnson yn wynebu gweld ei fwyafrif yn Nhŷ’r Cyffredin yn gostwng i un.

Mae’r isetholiad yn cael ei gynnal ar ôl i’r cyn-Aelod Seneddol, Chris Davies, golli ei sedd o ganlyniad i ddeiseb ‘ad-alw’ a sefydlwyd yn fuan wedi iddo gael ei ganfod yn euog o geisio hawlio treuliau ffug.

Mae’r Ceidwadwyr wedi penderfynu cefnogi Chris Davies yn yr isetholiad, ac mae disgwyl i Boris Johnson ymweld â’r etholaeth yn ystod ei ymweliad cyntaf â Chymru yn rhinwedd ei swydd yn Brif Weinidog Prydain.

“Dyw’r Blaid Brexit ddim yn gallu darparu Brexit, ond fe all y Ceidwadwyr,” meddai Boris Johnson, yn sgil pryderon y gall y bleidlais ‘adael’ gael ei rhannu rhwng y ddwy blaid.

Dywedodd am y Democratiaid Rhyddfrydol, y ffefrynnau i ennill yr isetholiad, eu bod nhw “am wneud popeth yn eu gallu i rwystro Brexit.

“Os yw pobol Brycheiniog a Sir Faesyfed eisiau Brexit ar amser, mae angen iddyn nhw bleidleisio ar gyfer fy ymgeisydd i, y Ceidwadwr Chris Davies.”