Roedd tua 7,000 o bobol a 100 o stondinau yn bresennol yng Ngŵyl Fwyd Llanbed dros y penwythnos (dydd Sadwrn, Gorffennaf 27), er mai dim ond cyfnod o ddeufis a gafodd y trefnwyr i baratoi ar ei chyfer.

Bu’n rhaid i’r trefnwyr ofyn am help y gymuned ychydig wythnosau cyn y digwyddiad wedi i filoedd o bunnau “ddiflannu” o goffrau’r ŵyl – tua £5,000 yn ôl yr hyn mae golwg360 yn deall – gyda Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i’r mater.

Cafodd pwyllgor arbennig, oedd yn cynnwys rhai o brif sefydliadau’r dref, ei sefydlu ar drothwy’r ŵyl hefyd, gan gyfarfod am y tro cyntaf ar ddechrau mis Mehefin.

Cymorth busnesau lleol

Yn ôl maer y dref ac aelod o’r pwyllgor trefnu, Rob Phillips, bu’r ymateb i’r cais am gymorth yn “dda iawn”, gyda nifer o fusnesau lleol yn “hael iawn” tua’r achos, gan sicrhau bod y digwyddiad ar gampws y brifysgol yn “llwyddiant mawr”.

“Roedd rhai busnesau wedi gweld pryder am ddyfodol yr ŵyl, ac yn gwerthfawrogi pwysigrwydd yr ŵyl i’r dref,” meddai Rob Phillips wrth golwg360.

“Hyd yn oed os nad ydyn nhw fel busnesau penodol yn elwa, mae cael pobol yn y dref a chael y dref i ffynnu o les i bawb…

“Mae’r ŵyl yn bwysig iawn i Lanbed,” meddai wedyn. “Dyma, siŵr o fod, y diwrnod prysuraf yn y dref yn ystod y flwyddyn.

“Roeddwn i mor blês i weld bod y gymuned wedi dod at ei gilydd er mwyn gwneud yn siŵr bod yr ŵyl, nid jyst yn parhau, ond yn parhau i dyfu ac i ffynnu a’i fod yn parhau i fod yn un o’r gwyliau bwyd gorau yng Nghymru, yn fy marn i.”