Mae dyn 41 oed a dynes 39 oed wedi cael eu harestio ar ôl i’r heddlu orfod gwagio stryd yn Abertawe yn dilyn ffrae ddomestig.
Bu’n rhaid i bobol yn Trinity Street yng Ngorseinon adael eu cartrefi am gyfnod, a chafodd y ddau eu harestio ar amheuaeth o fod ag arf yn eu meddiant.
Cafodd y dyn ei arestio ar amheuaeth o achosi difrod troseddol hefyd, ac fe fu’n rhaid galw arbenigwyr bomiau fel rhagofal.
Mae’r ddau yn cael eu holi yn y ddalfa.