Mae Jeremy Corbyn yn dweud nad yw herio Boris Johnson mewn etholiad cyffredinol yn “poeni dim” arno.
Mae’n dweud bod gan y Blaid Lafur ymgyrch ar y gweill i geisio ennill seddi ymylol, yn ogystal â nifer o bolisïau newydd.
“Awn ni allan yno a phledio ein hachos,” meddai wrth raglen Sophy Ridge on Sunday.
“Dw i ddim yn cymryd rhan mewn sarhad personol, dw i ddim yn sarhau’n bersonol, dw i ddim yn gwneud pethau personol, o’m rhan i mae’r materion yn rhy ddifrifol.”
“Mae gen i fy ymgyrch haf yn ei lle, mae gyda ni’r rhan fwyaf o ymgeiswyr wedi’u dewis yn ein holl etholaethau ymylol.”