Mae Donald Trump, Arlywydd yr Unol Daleithiau, wedi cael ei gyhuddo o hiliaeth ar ôl disgrifio ardal lle mae trwch y boblogaeth yn bobol groenddu fel “llanast ffiaidd llawn llygod mawr”.
Daw ei sylwadau mewn negeseuon ar Twitter wrth ladd ar Elijah Cummings, sy’n cynrychioli un o ardaloedd talaith Baltimore sy’n “un o’r ardaloedd waethaf ei rheolaeth ac yn un o’r ardaloedd mwyaf peryglus yn yr Unol Daleithiau”.
Ac maen nhw’n dod bythefnos ar ôl iddo ladd ar bedair o fenywod sy’n gweithio yn y Gyngres.
Mae Elijah Cummings yn un o’r rhai sydd wrthi’n cynnal ymchwiliadau i waith llywodraethol yr Arlywydd.
Mae Donald Trump wedi ei alw’n “fwli ciaidd” ar ôl iddo feirniadu’r amodau mae mewnfudwyr yn cael eu cadw ynddyn nhw.
Ymateb Elijah Cummings
Wrth ymateb i sylwadau Donald Trump, mae Elijah Cummings yn dweud mai ei “ddyletswydd foesol” yw amddiffyn y bobol mae’n eu cynrychioli.
Daw ei amddiffyniad o’i gymuned ar ôl i Donald Trump ei feirniadu am y modd y bu’n ymchwilio i aelodau o’i deulu yn y Tŷ Gwyn.
Daeth ei bwyllgor i’r penderfyniad ddydd Iau i gosbi’r defnydd o gyfeiriadau e-bost gwaith a negeseuon testun at ddibenion personol.