Mae Llywodraeth Prydain yn “rhagdybio” y byddan nhw’n gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ar Hydref 31, yn ôl Michael Gove, Canghellor Dugiaeth Caerhirfyn.
Fe sy’n gyfrifol yn y Swyddfa Gabinet am y trefniadau ar gyfer ymadawiad heb gytundeb.
Mewn erthygl yn y Sunday Times, mae’n dweud mai gadael gyda chytundeb yw’r nod o hyd, ond fod angen i’r llywodraeth baratoi ar gyfer pob sefyllfa.
“Gyda phrif weinidog newydd, llywodraeth newydd, a chenhadaeth eglur, byddwn ni’n gadael yr Undeb Ewropeaidd ar Hydref 31.
“Dim os nac oni bai. Dim rhagor o oedi. Mae Brexit yn digwydd.”
‘Popeth o fewn ein gallu’
Mae Michael Gove yn dweud y bydd y llywodraeth yn gwneud “popeth o fewn eu gallu” i sicrhau cytundeb da.
Ond mae’n dweud na fyddai ail-gyflwyno cytundeb Theresa May yn ddigon da.
“Allwch chi ddim ail-dwymo’r pryd sydd wedi cael ei anfon yn ôl a disgwyl y bydd yn ei wneud yn fwy blasus.”
Yn ôl y papur newydd, mae Boris Johnson, y prif weinidog newydd, wedi penodi unigolion i’w gabinet a fydd yn sicrhau bod Brexit yn mynd rhagddo.
Mae un ohonyn nhw, y Canghellor Sajid Javid, yn dweud y bydd “arian ychwanegol sylweddol” ar gael i sicrhau ymadawiad ar Hydref 31.
Llafur am atal Brexit heb gytundeb
Yn y cyfamser, mae Keir Starmer, llefarydd Brexit y Blaid Lafur yn dweud y bydd cynghrair drawsbleidiol yn cael ei sefydlu er mwyn atal Brexit heb gytundeb.
“Mae’r cyfeiriad rydyn ni’n teithio iddo o dan Boris Johnson yn glir, ac felly mae’n bwysicach nag erioed ein bod ni’n adeiladu cynghrair drawsbleidiol gref i atal Brexit heb gytundeb, meddai yn yr Observer.
Ond mae newyddion drwg i Lafur, yn dilyn pôl sy’n awgrymu bod ethol arweinydd a phrif weinidog newydd wedi rhoi hwb i’r Ceidwadwyr.
Maen nhw wedi codi 10 pwynt i 30%, yn ôl Deltapoll ar gyfer y Mail on Sunday.
Maen nhw bum pwynt ar y blaen i Lafur (25%), y Democratiaid Rhyddfrydol (18%) a Phlaid Brexit (14%).
Ond o gefnu ar yr arweinydd Jeremy Corbyn, byddai Llafur yn codi i 34%, y Ceidwadwyr yn gostwng i 28%, Plaid Brexit yn aros ar 14% a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn gostwng i 13%.