Mae pryderon am dri o blant sydd ar goll o ardal Llandrillo-yn-Rhos.
Does neb wedi gweld Kiya Williams, Lilly-Mae Owen-Roberts na Lewis Owen-Roberts ers neithiwr (nos Fawrth, Gorffennaf 23).
Mae gan Kiya Williams wallt du ac roedd hi’n gwisgo ffrog lwyd.
Roedd Lilly-Mae Owen-Roberts, sy’n wyth oed, yn gwisgo siwt chwarae oren, a Lewis Owen-Roberts, sy’n naw oed, yn gwisgo crys T Spiderman a siorts lliw khaki.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth amdanyn nhw gysylltu â’r heddlu ar 101.