Fe fydd Theresa May yn ffarwelio â Downing Street heddiw, a Boris Johnson yn camu dros y trothwy yn rhif 10 fel prif weinidog am y tro cyntaf.

Bydd y prif weinidog presennol yn cyflwyno’i hymddiswyddiad yn swyddogol i Frenhines Loegr, a’i holynydd yn cymryd yr awenau’n ffurfiol.

Yn ystod ei gyfarfod cyntaf fel prif weinidog, fe fydd gofyn i Boris Johnson ffurfio llywodraeth newydd, ar ôl curo Jeremy Hunt yn y ras i arwain y blaid.

Cabinet

Mae disgwyl i Priti Patel gael lle yn y llywodraeth, o bosib fel Ysgrifennydd Cartref.

Bu’n rhaid iddi ymddiswyddo o lywodraeth Theresa May tros gysylltiadau heb awdurdod â swyddogion Israel pan oedd hi’n Ysgrifennydd Datblygiad Rhyngwladol.

Mae disgwyl hefyd i Alok Sharma gael ei ddyrchafu i’r Cabinet wrth i Boris Johnson greu “cabinet ar gyfer Prydain fodern”.

Ond fydd y Canghellor Philip Hammond, yr Ysgrifennydd Cyfiawnder David Gauke na’r Ysgrifennydd Datblygiad Rhyngwladol Rory Stewart ddim yn cael eu penodi i’r Cabinet ar ôl cyhoeddi na fydden nhw’n fodlon gwasanaethu Boris Johnson.

Ymhlith y rhai eraill a allai adael y Llywodraeth yw’r Ysgrifennydd Busnes Greg Clark.

Serch hynny, gallai nifer o gyn-weinidogion fel Dominic Raab, Esther McVey ac Andrea Leadsom ddychwelyd i’r Cabinet.

Gallai Sajid Javid neu Liz Truss gael swydd y Canghellor.

Un o flaenoriaethau’r prif weinidog newydd fydd sicrhau ymadawiad Prydain o’r Undeb Ewropeaidd erbyn Hydref 31 “doed a ddêl”.

Ymadawiad Theresa May

Un o dasgau olaf Theresa May fydd arwain Sesiwn Holi’r Prif Weinidog.

O’r fan honno, bydd hi’n dychwelyd i Downing Street ar gyfer ei haraith olaf cyn cyflwyno’i hymddiswyddiad.

Wedyn, bydd Boris Johnson yn traddodi ei araith gyntaf yn brif weinidog.