Mae’r Comiwnyddion Cymreig yn dadlau y dylai Llywodraeth Cymru ac aelodau’r Cynulliad fod wedi pleidleisio o blaid dod â phwerau Ewropeaidd i Gymru yn hytrach na’u cadw ym Mrwsel.
Fe fu pwyllgor Cymreig y blaid yn cwrdd ym Merthyr Tudful, lle mae Trevor Jones, ysgrifennydd Cymreig y blaid, yn dweud bod gwrthod y Cytundeb Ymadael a chefnogi ail refferendwm gydag aros ymhlith yr opsiynau yn “sarhad” i bleidleiswyr o Gymru oedd yn dymuno gadael yn 2016.
Ac maen nhw’n cyhuddo’r Llywodraeth hefyd o “wrthod tynnu pwerau oddi ar fiwrocratiaid y Comisiwn Ewropeaidd”.
Sylwadau’r ysgrifennydd
Dywed Trevor Jones fod llywodraethau Cymru a Phrydain eisoes wedi cytuno i drosglwyddo pwerau llawn neu rannol mewn o leiaf 70 o feysydd o’r Undeb Ewropeaidd i’r Cynulliad ar ôl Brexit.
Ac mae’n feirniadol o’r cynigion ar Ragfyr 4 yn erbyn y Cytundeb Ymadael ac ar Fehefin 5 o blaid ail refferendwm Brexit.
“Mae’n anodd credu bod y rhan fwyaf o bobol sy’n deddfu ym Mae Caerdydd am danseilio Brexit fel y byddai’r pwerau hyn yn aros ym Mrwsel am byth,” meddai.
Mae hefyd wedi lladd ar Blaid Cymru am gefnogi annibyniaeth i Gymru ond “ildio’n barhaus bwerau deddfu hanfodol i fiwrocratiaid hunan-bwysig yng Ngwlad Belg sydd o blaid busnesau mawr”.
Mae’r Comiwnyddion yn galw am Brydain ffederal y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, gyda phwerau wedi’u datganoli’n llawn i Gymru a’r Alban.