Mae cronfa newydd gwerth £2m yn cael ei sefydlu ar gyfer newyddiaduraeth sydd er budd y cyhoedd.
Mae’n rhan o gynllun peilot sy’n deillio o Adolygiad Cairncross, a gafodd ei gyhoeddi’n gynharach eleni.
Roedd yn argymell y dylai gweinidogion edrych ar leihau trethi ar newyddiaduraeth er budd y cyhoedd, gyda phwyslais arbennig ar newyddion lleol.
“Mae arloesi’n bwysig os yw cwmnïau newyddion ac yn enwedig darparwyr newyddion bach a lleol am oroesi, ac mae’n bwysig hefyd darparu newyddion hygyrch er budd y cyhoedd ar gyfer y gynulleidfa fwyaf eang bosib,” meddai’r Fonesig Cairncross, awdur yr adroddiad.
Croesawu’r cynllun, ond rhybudd hefyd
Tra bod Cymdeithas y Golygyddion yn croesawu’r gronfa newydd, maen nhw’n galw am “drafodaeth agored gyda’r diwydiant” i amlinellu beth yn union yw newyddiaduraeth er budd y cyhoedd.
Maen nhw’n cwestiynu sut y bydd modd sicrhau annibyniaeth newyddiadurwyr ymchwil a’u cyhoeddwyr rhag buddsoddwyr.
Yn ôl Ian Murray, rheolwr gyfarwyddwr y gymdeithas, “mae perygl ynghlwm wrth bwy fydd yn penderfynu pa fentra sy’n deilwng neu beidio”.
Bydd y gronfa’n cael ei lansio yn yr hydref, ac fe fydd ar gael tan ddiwedd y flwyddyn ariannol.