Mae Adam Price yn dweud bod angen “perswadio” pobol ynglyn â manteision ennill annibyniaeth i Gymru.
Fe wnaeth ei sylwadau ar raglen Sophy Ridge on Sunday, lle mae’n dweud bod 20% o boblogaeth Cymru o blaid annibyniaeth ar hyn o bryd.
Ac mae’n dod ar drothwy gorymdaith annibyniaeth fawr yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn nesaf (Gorffennaf 27), yn dilyn digwyddiad tebyg yng Nghaerdydd ym mis Mai.
“Dw i yn y busnes o berswadio,” meddai arweinydd Plaid Cymru.
“Ar hyn o bryd mae oddeutu 20% o boblogaeth Cymru o blaid annibyniaeth.
“Mae ar gynnydd, fwy na thebyg oherwydd siambls Brexit a San Steffan ar hyn o bryd.
“Ond rydyn ni am adeiladu ar hynny.”
Ail refferendwm fel Brexit?
Wrth gael ei holi am fentro herio canlyniad refferendwm aflwyddiannus, mae’n dweud bod sefyllfa Brexit yn wahanol i ail ymgais yr Alban am refferendwm annibyniaeth ac unrhyw ymdrechion i sicrhau ail refferendwm yng Nghymru.
“Rydyn ni am ddarbwyllo pobol Cymru nad yw’r Brexit sy’n cael ei gynnig er lles ein cenedl ni,” meddai.
Ac wrth siarad ar fater ail refferendwm i’r Alban, dywedodd fod hwnnw’n wahanol i Brexit am fod “ffolder manwl” yn amlinellu’r achos yn yr Alban, lle nad oedd cynllun manwl ar gyfer ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.