Mae dyn 61 oed wedi cael ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol i ddyn 54 oed yn Abertawe.
Cafodd yr heddlu eu galw i Stryd Fawr y ddinas nos Iau (Gorffennaf 18).
Cafodd y dioddefwr ei gludo i’r ysbyty mewn cyflwr difrifol.
Mae dyn 21 oed a dynes 50 oed a gafodd eu harestio bellach wedi cael eu rhyddhau dan ymchwiliad.
Bydd Colin Thomas Payne, 61 oed o Abertawe, yn mynd gerbron Llys y Goron Abertawe ar Awst 19, ac mae wedi’i gadw yn y ddalfa yn y cyfamser.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.