Mae Heddlu’r Gogledd yn dweud nad ydyn nhw bellach yn trin marwolaeth dyn 71 oed yn y Rhyl fel un amheus.

Mae dynes 59 oed a gafodd ei harestio ar amheuaeth o’i lofruddio wedi cael mynd yn rhydd yn ddi-gyhuddiad.

Mae’r mater bellach yn nwylo’r crwner.

Cafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad yn Heol Tynewydd yn ystod oriau mân fore ddoe (dydd Mawrth, Gorffennaf 16) lle cafodd corff y dyn ei ganfod.