Mae mwy na 60 o Arglwyddi Llafur yn cyhuddo Jeremy Corbyn o “fethu’r prawf arweinyddol”, ar ôl iddyn nhw gyhoeddi hysbyseb mewn papur newydd yn ei feirniadu.
Daw’r hysbyseb, sy’n llenwi tudalen yn y Guardian heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 17), wrth iddyn nhw ei gyhuddo o fethu ag ymateb i honiadau o wrth-Semitiaeth o fewn y blaid.
Mae’n cyfeirio at yr “awyrgylch wenwynig” sy’n “hollti ein mudiad”, a’r ffaith fod yr helynt wedi arwain at filoedd o aelodau’n gadael y blaid.
Mae’r hysbyseb yn dweud nad yw’r Blaid Lafur yn “lle diogel” i’w chefnogwyr bellach.
Bai ar yr arweinydd
“Rydym yn dweud eich bod chi’n atebol fel arweinydd am adael i wrth-Semitiaeth dyfu yn ein plaid ac am lywyddu tros y cyfnod mwyaf cywilyddus yn hanes Llafur,” meddai’r hysbyseb.
Mae’r hysbyseb wedi denu cefnogaeth 67 o Arglwyddi’r Blaid Lafur, gan gynnwys Peter Hain, ac fe ddaw yn dilyn adroddiad damniol rhaglen Panorama y BBC.
Roedd y rhaglen yn cyhuddo aelodau blaenllaw o’r blaid o fethu ag ymchwilio i honiadau.
Mae’r Arglwyddi’n cyhuddo Jeremy Corbyn o fethu ag “agor ei lygaid” na “derbyn cyfrifoldeb” am y ffrae.
“Allwn ni ddim bod yn llywodraeth amgen gredadwy a fydd yn uno’r wlad os na allwn ni roi trefn ar ein pethau ein hunain,” meddai.
“Bydd methu â gwneud y peth iawn ar eich rhan chi yn arwain at fethiant y Blaid Lafur i allu gwneud ein gwlad yn lle gwell i’r bobol a’r cymunedau rydym yn ceisio eu gwasanaethu.”
Mae’r hysbyseb yn gorffen drwy ddweud bod y Blaid Lafur yn “croesawu pawb”.