Mae dyn 48 oed a dynes 38 oed wedi’u rhyddhau o dan ymchwiliad yn dilyn marwolaeth sydyn dyn 50 oed yn Ystalyfera yng Nghwm Tawe.
Cawson nhw eu harestio ar amheuaeth o’i lofruddio yn ardal Maes y Darren toc wedi 10.30 nos Sul (Gorffennaf 15).
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi cael ei anafu.
Fe fu farw’r dyn, ac mae’r ddau a gafodd eu harestio wedi cael eu rhyddhau wrth i’r ymchwiliad barhau.