Mae Nazanin Zaghari-Ratcliffe wedi cael ei chludo i uned iechyd meddwl yn Iran, yn ôl ei gŵr.
Cafodd y ddynes o Loegr, sydd bellach yn 40 oed, ei harestio ym maes awyr Tehran wrth iddi deithio i’r wlad gyda’i theulu yn 2016, a’i dedfrydu i bum mlynedd o garchar am ysbïo.
Mae hi’n gwadu’r cyhuddiad.
Yn ôl Richard Ratcliffe, cafodd hi ei symud o’r carchar i’r uned iechyd meddwl nos Lun (Gorffennaf 15), lle mae hi o dan ofal gwarchodlu’r wlad.
Aeth ei thad i’w gweld hi yno, ond doedd e ddim wedi cael caniatâd i’w gweld hi, ac mae’n dweud nad oes ganddi mo’r hawl i gysylltu â’i theulu.
Mae hi’n dweud y dylai’r helynt fod yn “destun embaras”, a’i bod hi “yng nghanol gêm wleidyddol”.
Ymgyrch
Mae ymgyrchwyr sy’n ceisio sicrhau ei bod hi’n cael gadael y carchar yn dweud nad ydyn nhw’n gwybod pa driniaeth mae hi’n ei chael yn yr uned, nac am ba hyd y bydd hi yno.
Fis diwethaf, wnaeth hi ymprydio am 15 niwrnod fel rhan o brotest yn erbyn ei charcharu’n “annheg”.
Ymunodd ei gŵr â hi wrth ymprydio ar balmant ger llysgenhadaeth Iran yn Llundain.
Mae eu merch bump oed, Gabriella, yn aros gyda rhieni ei mam ers 2016.
Codi’r mater yn Downing Street
Mae Richard Ratcliffe yn dweud y bydd yn codi’r mater gyda phrif weinidog newydd Prydain ar ôl iddo gael ei ddewis.
Mae Jeremy Hunt, un o’r ddau sydd yn y ras, eisoes wedi helpu ei wraig drwy roi gofal diplomyddol iddi mewn ymgais i ddatrys ei sefyllfa.
Yn 2017, fe wnaeth Boris Johnson, yr ymgeisydd arall yn y ras i arwain y Ceidwadwyr, ddweud bod Nazanin Zaghari-Ratcliffe yn Iran er mwyn dysgu newyddiaduraeth, yn groes i awgrym ei theulu ei bod hi yno i ymweld â’i theulu.
Mae’r Swyddfa Dramor yn galw ar awdurdodau Iran i roi caniatâd i’w theulu ymweld â hi “ar frys”.