Mae Heddlu’r De yn ymchwilio i wrthdrawiad difrifol ym Merthyr Tudful neithiwr (nos Fawrth, Gorffennaf 16).
Gadawodd car Awdi arian y ffordd yn Heol Swcrfa yn Ystâd Gellideg am 6.58 cyn taro i mewn i nifer o bobol ifanc.
Cafodd yr ambiwlans awyr eu galw, a chafodd dau fachgen ifanc 12 a 10 oed eu cludo i’r ysbyty.
Mae un wedi cael ei anafu’n ddifrifol ac mae’n cael triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd.
Mae’r gyrrwr yn helpu’r heddlu gyda’u hymchwiliad ar hyn o bryd.
Dylai unrhyw un a welodd y digwyddiad gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101.