Mae myfyriwr o Fangor yn dweud iddi gael ei thrin yn “annheg” wedi iddi dderbyn gorchymyn i beidio â siarad yn Gymraeg gyda chwsmeriaid tra’r oedd hi’n gweithio ym mwyty KFC yn y  ddinas.

Roedd Ceri Hughes, sy’n fyfyriwr Hanes ar ei blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Bangor, yn gweithio’r shifft nos yn y bwyty ar y stryd fawr ar Fehefin 28 pan dderbyniodd hi’r gorchymyn gan ei goruchwyliwr.

“Pan o’n i’n gweithio yn KFC, yn gweithio’r shifft nos, roeddwn i’n cael fy hyfforddi achos bo fi’n newydd,” meddai Ceri Hughes wrth golwg360.

“Ond bob tro roeddwn i’n cael fy hyfforddi, roedd yna rywun newydd yn fy hyfforddi i… hyd yn oed os oedd yna bobol Pwylaidd [yn oruchwylwyr], roedd o’n iawn i mi siarad Cymraeg.

“Ond am ryw reswm, dyma’r supervisor arall yma’n dod ata i’n deud bod yn rhaid i fi siarad Saesneg gyda chwsmeriaid.

“Mi wnes i egluro iddi bo fi ddim yn gallu gneud hynna os ydyn nhw’n siarad Cymraeg, a dyma fi’n cario ymlaen i siarad Cymraeg efo’r cwsmeriaid. A dyma hi’n mynd â fi i’r cefn a rhoi ffrae i fi am siarad Cymraeg efo’r cwsmeriaid…”

Gadael

Yn fuan wedi’r digwyddiad, fe benderfynodd Ceri Hughes adael ei swydd, ond nid cyn cyflwyno cŵyn i reolwr y bwyty.

Mae’n dweud mai wfftio’r gŵyn a wnaeth y rheolwr, cyn gwrthod ei derbyn fel rheswm dilys tros ymddiswyddo.

“Fe wnes i ddeud wrth y manager beth oedd wedi digwydd, ac mi wnaeth o ddweud bod hi ddim wedi deud hynna…

“Wedyn, mi es i ar fy ngwyliau ac fe wnes i ddod yn ôl a deud ‘dw i ddim isio gweithio i chi ddim mwy’. A dyma’r manager yn deud ei fod o’n ‘extremley invalid reason’ tros adael.”

Ymateb KFC

Mewn ymateb, mae KFC yn gwrthod trafod yr achos penodol ym mwyty Bangor, ond maen nhw’n pwysleisio bod gan staff yn eu bwytai y rhyddid i ddefnyddio “unrhyw iaith” wrth gyfathrebu â chwsmeriaid.

“Rydyn ni wastad eisiau i aelodau ein tîm ddefnyddio’r iaith y maen nhw a’n hymwelwyr yn gyfforddus ynddi,” meddai llefarydd ar ran y cwmni wrth golwg360