Trelar Ifor Williams
Bydd trelar o Gymru yn dilyn Rihanna ar ei thaith 1,400 o filltiroedd o gwmpas Ewrop yn ystod y misoedd nesaf.

Mae’r gantores o Barbados, sydd wedi gwerthu 20 miliwn o albymau a 60 miliwn o senglau, newydd ddechrau taith enfawr o gwmpas y Deyrnas Unedig ac Ewrop – ac yn gefn i’r cyfan y mae trelar Ifor Williams.

Cludo holl nwyddau hyrwyddo Rihanna yw pwrpas y trelar yn ystod y daith Loud, lle fydd y gantores yn perfformio caneuon oddi-ar ei halbwm ddiweddaraf o’r un teitl.

Ond mae trelars y cwmni o Gynwyd ger Corwen yn hen gyfarwydd â darparu cefnogaeth i deithiau’r sêr erbyn hyn. Fe fu rhaglen deledu boblogaidd MTV – Pimp My Ride – mewn cysylltiad â’r cwmni yn ddiweddar er mwyn cael trelar i’w addurno ar gyfer y band o Lundain, Playground  Legend.

Yn ôl Andrew Reece-Jones, Rheolwr Peiriannydd Dylunio Trelars Ifor Williams, roedd hi’n fenter cyffrous iawn i’r cwmni gael darparu trelar ar gyfer y seren ryngwladol.

“Ry’n ni wastad yn cael ein synnu gan y gwahanol ddefnydd y mae pobol yn eu darganfod ar gyfer ein trelars ni,” meddai Andrew Rees-Jones, “ond ry’n ni wrth ein bodd yn gallu cefnogi Rihanna ar daith.”

Bydd y trelar yn cael ei dynnu tu ôl i fws moethus y tîm hyrwyddo sy’n teithio gyda’r gantores. Mae’r bws – sy’n cynnwys 12 ystafell wely, dwy lolfa, teledu mawr, cegin, tŷ bach a chawod – wedi cael ei ddarparu gan gwmni Dale Travel o Gaer.

Yn ôl pennaeth Dale Travel, Ian Dale, sy’n byw yn y Fflint, mae’r daith 14,000 milltir ar draws Ewrop yn mynd i fod yn un cyffrous.

“Ry’n ni’n mynd i fod ar daith am dri mis,” meddai Ian Dale.

“Ar ôl gwneud cyngherddau yn y Deyrnas Unedig, fyddwn ni ar daith o gwmpas Ewrop a Sgandinafia. Mae ganddon ni un gyngerdd yng Ngwlad Pwyl, ac un yn y weriniaeth Siec. Wedyn fe fyddwn ni’n mynd i’r Almaen, Ffrainc a Sbaen, gan orffen yn Lisbon ar 16 Rhagfyr.”