Liam Fox
Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn Liam Fox ei fod wedi cwrdd â’i ffrind Adam Werritty 18 o weithiau tra ar ymweliadau dramor.

Mewn datganiad i’r Senedd, dywedodd Liam Fox bod Adam Werritty wedi ei gwrdd 22 o weithiau yn y Weinyddiaeth Amddiffyn dros y 16 mis diwethaf.

Dywedodd ei fod bellach wedi cyflwyno mesurau i sicrhau na fydd Adam Werritty yn gwneud ymweliadau preifat â’r Weinyddiaeth Amddiffyn  yn y dyfodol, na fydd yn mynychu cynadleddau dramor lle mae’n bresennol ac na fyddan nhw’n cwrdd dramor tra bod Liam Fox ar fusnes swyddogol.

Dywedodd Liam Fox bod y rhan fwyaf o’r cyfarfodydd gyda Adam Werritty yn rhai “cymdeithasol”. Yn ystod un o’r cyfarfodydd yma fe ddarganfyddodd Liam Fox bod Adam Werritty yn defnyddio cardiau busnes yn honi ei fod yn ymgynghorydd i Dr Fox – ac fe ofynnodd iddo roi’r gorau i hynny.

Dywedodd Liam Fox nad oedd Adam Werritty wedi cael mynediad i ddogfennau cyfrinachol.

Dywedodd Downing Street bod  David Cameron bellach wedi gweld casgliadau cychwynol ymchwiliad gan Ysgrifennydd y Weinyddiaeth Amddiffyn Ursula Brennan i berthynas Dr Fox â Adam Werritty.

Dywedodd llefarydd ar ran rhif 10 ei bod yn amlwg bod “camgymeriadau difrifol”  wedi cael eu gwneud a bod angen sicrhau bod côd ymddygiad y gweinidogion yn cael ei ddilyn yn y dyfodol.