Mae lluoedd y gwrthryfelwyr yn Libya wedi codi eu baner dros un o gyn-ganolfanau milwrol Gaddafi, wedi iddyn nhw lwyddo i gipio’r ganolfan bwysig yn Sirte.

Ond wrth i’r gwrthryfelwyr ddathlu ar ôl cipio canolfan a fu’n ganolbwynt i nifer o filwyr sy’n deyrngar i Muammar Gaddafi, fe waethygodd y brwydro mewn rhannau eraill o dref enedigol y cyn-arlywydd.

Yn ôl un swyddog  ym myddin y gwrthryfelwyr, Younis al-Abdally, mae ei filwyr wedi amgylchynu nifer o gefnogwyr Gaddafi mewn ardal cyfyng yn y ddinas erbyn hyn. Ond dywedodd fod disgwyl i’r frwydr olaf fod yn un ffyrnig.

Yn ôl adroddiadau dwieddar, mae un o feibion Gaddafi a nifer o uwch-swyddogion o lywodareth y cyn-arweinydd wedi cymryd lloches o dan ddaear mewn plasdai yn Sirte.

Daw’r adroddiadau diweddaraf wrth i danciau, rocedi a gynnau danio ar hyd y strydoedd o gwmpas canolfan Ouagadougou, lle byddai Gaddafi yn arfer cynnal cyfarfodydd rhyngwladol.

Llwyddiant symbolaidd

Mae cipio’r ganolfan wedi bod yn lwyddiant symbolaidd fawr i’r gwrthryfelwyr, gan fod milwyr Gaddafi wedi cael eu diogelu’n rhyfeddol gan y ganolfan â’i muriau uchel yn ystod wythnosau o gyrch gan y gwrthryfelwyr.

Mae’r gwrthryfelwyr hefyd yn dweud eu bod nhw wedi llwyddo i ennill llawer o dir ychydig ymhellach o’r arfordir yn Bani Walid.

Y gred yw bod Bani Walid yn cynnig lloches i nifer o uchel-swyddogion yng nghyfundrefn Gaddafi.

Mae arweinydd presennol Libya, Mustafa Abdul-Jalil, wedi dweud ei fod yn disgwyl y gall y ddwy ddinas gael eu cipio gan y gwrthryfelwyr o fewn yr wythnos.

Mae darogan o’r fath wedi bod yn gamarweiniol yn y gorffennol, ond mae gan arweinwyr newydd Libya reswm i wthio erbyn hyn, wedi i Mustafa Abdul-Jalil ddweud y byddai’n bryd i gyhoeddi fod Libya yn rhydd unwaith i Sirte gael ei chipio.