Mae hanner un o ynysoedd yr afon Menai, sy’n eiddo i Brifysgol Bangor, wedi cael ei rhoi ar y farchnad am bris o filiwn o bunnau.

Mae Ynys Faelog oddi ar arfordir de-ddwyrain Ynys Môn ac mae’n un o bedair ynys fechan rhwng trefi Porthaethwy a Biwmares.

Mae’r darn o’r ynys sydd ar werth wedi bod yn nwylo Prifysgol Bangor ers yr 1970au, a than yn ddiweddar bu’n lleoliad ar gyfer canolfan ymchwil gwyddonol.

Yn ôl y brifysgol, maen nhw wedi penderfynu ei werthu wrth iddyn nhw gwtogi ar y maint o dir sydd ganddyn nhw a chanolbwyntio eu gweithgarwch “mewn nifer llai o adeiladau ac eiddo”.

“Cyfle unwaith mewn oes”

Mae hanner yr ynys, sy’n cynnwys cyfres o adeiladau ar 2.5 acer o dir, yn cael ei werthu ar y cyd gan y cwmnïau, Williams & Goodwin ac Avison Young, ar ran Prifysgol Bangor.

Yn ôl gwefan Avison Young, mae Ynys Faelog yn “gyfle unwaith mewn oes”.

“Ynghanol ardal gadwraeth, mae Ynys Faelog yn cynnwys heddwch, tawelwch ac unigrwydd, ac eto mae’n ddigon agos i drefi Porthaethwy a Biwmares.”

Mae gan yr ynys un perchennog arall, sy’n berchen ar ddarn o dir a thŷ ar yr ochr ogledd-orllewinol.