Mae Boris Johnson wedi lansio ei gais am goron y Torïaid gydag addewid i roi diwedd ar y cecru tros Brexit.

Mynnodd y cyn-Ysgrifennydd Tramor ei bod yn hanfodol bod Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd cyn Hydref 31 er mwyn cael gwared â’r “ymdeimlad o ddadrithiad ac anobaith” sy’n yr aer.

Rhybuddiodd y gallai methiant i anrhydeddu canlyniad refferendwm 2016 arwain at ethol Jeremy Corbyn yn Brif Weinidog yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

“Ar ôl tair blynedd a methu dau ddedlein, mae’n rhaid i ni adael yr Undeb Ewropeaidd ar Hydref 31,” meddai Boris Johnson heddiw.

“Mae oedi yn golygu colli. Mae oedi yn golygu Corbyn.

“Po hiraf y mae hyn yn mynd ymlaen, y gwaethaf yw’r risg y bydd pobol yn colli hyder… maen nhw’n haeddu’r gorau gan eu harweinydd.”