Mae undeb ffermwyr yn dweud na ddylai’r diwydiant amaeth yng Nghymru gael ei “aberthu” mewn cytundeb masnach gyda’r Unol Daleithiau.
Daw sylwadau Llywydd NFU Cymru, John Davies, ar ddiwrnod cyntaf ymweliad tridiau’r Arlywydd Donald Trump â gwledydd Prydain.
Prif bryder y llywydd yw y gallai bwydydd o’r Unol Daleithiau, sy’n anghyfreithlon yng ngwledydd Prydain ar hyn o bryd, gael mynediad i’r farchnad Brydeinig.
Mae’r bwydydd hynny yn cynnwys cyw iâr wedi ei glorineiddio a chig eidion wedi ei drin â hormonau.
Fe fyddai rhoi mynediad i’r rheiny, meddai John Davies, yn golygu y bydd gan ffermwyr yr Unol Daleithiau “fantais gystadleuol” tros ffermwyr gwledydd Prydain.
‘Cadwch at eich gair’
“Rydyn ni wedi clywed sawl ffigwr gwleidyddol yn addo ar wahanol lwyfannau yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn dweud na fydd ein diwydiant yn cael ei aberthu mewn cytundeb masnach munud olaf,” meddai John Davies.
“Rydyn ni eisiau i’r ffigyrau hynny gadw at eu gair yn ystod y misoedd nesaf…
“Mae’r diwydiant ffermio yng Nghymru gwerth £7bn i’r economi, yn bwydo’r genedl, yn hybu’r amgylchedd ac yn asgwrn cefn i gymunedau gwledig ffyniannus.
“Rydyn ni’n galw ar y Llywodraeth na fydd yr un o’r rhain yn cael eu haberthu mewn cytundeb masnach.”