Mae Donald Trump wedi creu argraff yng ngwledydd Prydain ar ddiwrnod cyntaf ei ymweliad â gwledydd Prydain, wedi iddo ymosod ar Faer Llundain.

Cyn iddo gyfarfod â’r Frenhines ym Mhalas Buckingham, cafodd Sadiq Khan ei alw yn “fethiant llwyr” gan yr Arlywydd mewn cyfres o drydariadau ar y wefan gymdeithasol, Twitter.

Ar ddechrau ei ymweliad, dywedodd Donald Trump: “Mae @SadiqKhan, sydd wedi gwneud jobyn gwael fel Maer Llundain, wedi bod yn ‘gas’ i Arlywydd yr Unol Daleithiau, sef y cyfaill pwysicaf sydd gan wledydd Prydain.

“Mae e’n fethiant llwyr a ddylai ganolbwyntio ar droseddau yn Llundain yn hytrach na fi.”

Mae swyddfa Sadiq Khan wedi ymateb drwy ddweud bod sylwadau Donald Trump yn “blentynnaidd” ac yn annheilwng o ddeilydd swydd Arlywydd yr Unol Daleithiau.

“Mae Sadiq yn cynrychioli gwerthoedd blaengar Llundain a gwledydd Prydain, gan rybuddio mai Donald Trump yw’r enghraifft waethaf o fygythiad asgell-dde sydd ar gynnydd ledled y byd ac sy’n peryglu’r gwerthoedd sylfaenol hynny sydd wedi diffinio ein sefydliadau democrataidd ers mwy na 70 mlynedd,” meddai llefarydd.

Mae’r Ysgrifennydd Tramor, Jeremy Hunt, wedi beirniadu Sadiq Khan gan ddweud bod y Maer yn dangos “anghwrteisi mawr” i’r Arlywydd.