Trwy fagu cysylltiadau â chyrff rhyngwladol mae’r Urdd yn gobeithio “adfywio” un o’u hymgyrchoedd hynaf, yn ôl eu pennaeth.
Eleni mae Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal ym Mae Caerdydd, a dros yr wythnos diwethaf mae manylion cyfres o bartneriaethau rhyngwladol wedi’u cyhoeddi – gan gynnwys partneriaeth â grŵp ieuenctid Eastside Side Academy yn Llundain, a phartneriaeth gyda gŵyl lenyddol yn Cameroon.
Mae Siân Lewis, Prif Weithredwr y corff, yn pwysleisio bod y mudiad wedi magu’r fath berthnasau ers y cychwyn, ond mae’n cydnabod bod y gwaith hynny wedi distewi dros y degawdau diwethaf.
“Mae’n werth nodi bod yr Urdd wedi bod yn gwneud gwaith rhyngwladol erioed,” meddai wrth golwg360.
“Rydym ni’n ail godi stêm ar hynny erbyn hyn. Mae’r neges heddwch wedi bod yn rhan o wasanaeth yr Urdd ers y cychwyn.
“Roedden ni’n cynnal cynadleddau rhyngwladol yn ôl ar ddiwedd yr 1940au, pan oeddem yn dod â phobol ifanc at ei gilydd.”
“Hinsawdd wleidyddol fregus”
Pam felly bod y cysylltiadau yma mor bwysig, a sut mae ieuenctid Cymru yn elwa ohonyn nhw? Mae Siân Lewis yn dweud bod neges bwysig wrth wraidd yr ymgyrch.
“Rydym ni yn byw mewn hinsawdd wleidyddol fregus ar hyn o bryd,” meddai.
“Ac yn fwy nag erioed o’r blaen, mae’n rhaid i ni godi ein llais a sicrhau bod ein hieuenctid ni yn bobol … sydd yn agored i’r byd…
“Am y rheswm yna rydym eisiau creu’r platfform rhyngwladol yma i’n haelodau. I fynd tu hwnt i Gymru, ac i fod yn llysgenhadon gwych i’r Urdd a’r iaith Gymraeg.”
Dathlu canrif
Wrth edrych at y dyfodol, mae Siân Lewis yn mynnu bydd y mudiad – fydd yn gant oed yn 2022 – yn dal ati i fagu perthnasau clos â mudiadau eraill ledled y byd.
“Rydym ni wedi creu strategaeth ryngwladol, a gafodd ei greu cyn i’r Llywodraeth gyhoeddi eu bod yn awyddus hefyd i greu strategaeth…
“Mae hwn yn rhywbeth hir dymor. Rydym ni’n mynd am y 100. Ac wrth i ni ddathlu 100 mlynedd o fodolaeth yn fudiad ieuenctid Cymraeg mae’n bwysig ein bod ni’n rhoi’r platfform rhyngwladol yna.
“Ac ar drothwy hynna mi fyddwn ni’n parhau.”