Mae enillydd Cadair Eisteddfod yr Urdd 2019 wedi datgelu wrth golwg360 iddo sgrifennu traethawd hir am hanes yr union gystadleuaeth y bu iddo’i hennill ddoe.
Fe gafodd y bardd Iestyn Tyne ei gadeirio ddoe yng Nghaerdydd (Mai 31), ac ef bellach yw’r unig berson i ‘ennill y dwbl’ yn yr Urdd – enillodd y goron yn Eisteddfod yr Urdd y Fflint 2016.
Mae’n adnabyddus i lawer am ei waith â chylchgrawn y Stamp, ac ef hefyd yw curadur gwefan Casglu’r Cadeiriau.
Archif o gadeiriau ac enillwyr cadeiriau eisteddfodol yw’r wefan honno, ac yn awr mi fydd y curadur ei hun yn ymuno â’r archif.
“Mae’n rhyw gyd-ddigwyddiad!” meddai wrth golwg360.
“A digwydd bod, fy nhraethawd hir ar gyfer fy ngradd yn Aberystwyth oedd hanes cystadleuaeth y gadair yn Eisteddfod yr Urdd. Cyd-ddigwyddiad hapus!
“Mae’n gadair hyfryd. Un peth yw pryderu am y feirniadaeth. Ond mae rhywun hefyd yn meddwl am sut gadair maen nhw’n mynd i gael.
“Roeddwn yn gwylio nhw pan oedden nhw’n ei dadorchuddio. Wel, mae’n hardd iawn. Dw i’n edrych ymlaen at fynd â hi adref a’i gosod yn y tŷ.”
“Cywilydd”
‘Cywilydd’ oedd testun cystadleuaeth y Gadair, ac aeth Iestyn Tyne i’r afael â’r pwnc trwy gyflwyno cywilydd mewn saith cyd-destun gwahanol.
Mae’r bardd wedi siarad yn agored yn y gorffennol am effaith clefyd y siwgr ar ei fywyd, ac mae’n dweud bod y cyflwr wedi bod yn destun “cywilydd” yn ogystal â dylanwadu ar ei waith.
“Mae o wedi yn ddiweddar,” meddai wrth golwg360. “Dw i wedi sylweddoli ei fod o yn rhywbeth – gan ei fod yn gymaint yn rhan o fy mywyd i – dw i’n naturiol yn medru sgwennu amdano fo.
“Cyn hynny roedd gen i gywilydd o’r peth, a doeddwn i ddim yn siarad yn agored am y peth. Ond, peth positif am ein hoes ni yw ein bod ni’n oes sy’n siarad am y pethau yma sy’n ein cael ni lawr.
“Ac mae hynny’n sicr yn y blynyddoedd diwethaf yn rhywbeth sydd wedi fy sbarduno i.”
Mae Iestyn Tyne wedi cyfrannu at gyfrol sy’n cael ei chyhoeddi gan Wasg y Lolfa dros yr haf – Byw yn fy nghroen. Mae’r gyfrol yn sôn am brofiadau 12 o bobol ifanc a’u cyflyrau.